Mae’r cwmni teganau Lego yn rhoi’r gorau i hysbysebu ei gynnyrch yn y Daily Mail ar ôl ymgyrch gyhoeddus ar i fusnesau beidio ag ariannu papurau newydd sy’n “hyrwyddo casineb a rhagfarn”.

Mae’r cwmni o Ddenmarc newydd drydar y neges “Rydym wedi terfynu’r cytundeb gyda’r Daily Mail ac nid ydym yn bwriadu unrhyw weithgaredd hyrwyddo gyda’r papur newydd yn y dyfodol”.

Mae’n dilyn pwysau cyhoeddus ar i gwmnïau dynnu eu hysbysebion yn ôl o amryw o bapurau asgell-dde ar ôl iddyn nhw redeg tudalennau blaen dadleuol ar ffoaduriaid a’r barnwyr Uchel Lys a ddyfarnodd fod yn rhaid i’r Senedd gael penderfynu ar Brexit.

Mae’n ymddangos mai Lego yw’r cwmni mawr cyntaf i gytuno i ofynion yr ymgyrchwyr.