Mae dynes 74 oed wedi disgrifio sut y bu bron iddi ddisgyn i mewn i dwll 30 troedfedd a ymddangosodd o fewn eiliadau yn ei gardd gefn yng ngogledd Swydd Efrog.

Mae dros 70 o dai teras wedi eu gwagio yn nhre’ Ripon ers i’r twll 15 metr wrth 15 metr ymddangos tua 10.30yh nos Fercher. Chafodd neb ei anafu.

Fe gafodd Frances O’Neill ei deffro gan swn rhyfeddol ac fe fu bron iddi ddisgyn i’r twll pan aeth allan i weld beth oedd wedi digwydd, meddai: “Ro’n i’n cerdded i lawr y grisiau i fy ngardd, pan deimlais y ddaear yn ysgwyd… ac mi lwyddais i afael mewn polyn a thynnu fy hun o ymyl y twll.”

Mae adroddiad gan Arolwg Daearegol Prydain yn dweud fod y mwyn gypswm, sy’n cael ei ddefnyddio i greu plastar, wedi’i ddefnyddio yn seiliau’r dre’, a bod hwnnw wedi toddi a chreu’r twll.