Mae lle i gredu bod gwrthdrawiad tram yn ne Llundain fore heddiw yn un angheuol.

Daeth y tram oddi ar y cledrau yn Croydon, a chafodd dros 50 o bobol eu hanafu yn y digwyddiad toc wedi 6.10yb.

Mae’r gwasanaethau brys wrthi’n ceisio rhyddhau nifer o bobol o orsaf Sandilands, yn ôl Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

Mae mwy na 70 o ddiffoddwyr tân yn y fan a’r lle ar hyn o bryd, ac mae ymchwiliad ar y gweill.Cafodd 20 o bobol eu cludo i’r ysbyty yn Tooting, ac mae pedwar o bobol yno wedi cael eu hanafu’n ddifrifol.

Cadarnhaodd Gwasanaeth Ambiwlans Llundain fod nifer o bobol wedi cael eu hanafu’n ddifrifol, ond bod y rhan fwyaf wedi cael mân anafiadau.