Nigel Farage ydi'r unig arweinydd all ddod â sefydlogrwydd i'r blaid, yn ôl Arron Banks
Fe allai UKIP ddirwyn i ben, yn ôl prif noddwr y blaid.

Wrth i’r blaid gyrraedd “croesffordd”, mae Arron Banks wedi awgrymu ar raglen Today ar Radio 4 heddiw mai Nigel Farage yw un o’r ychydig rai a allai gynnig y sefydlogrwydd sydd ei angen ar y blaid yn dilyn sawl ffrae yn ddiweddar, a bod ei golli fel arweinydd wedi “achosi i’r sosban ffrwydro”.

“Wn i ddim a yw hi ar ben ar UKIP,” meddai. “Mae hi’n sicr wedi cyflawni ei phrif nod mewn gwleidyddiaeth, sef sicrhau refferendwm Ewrop a’i ennill.

“Ar hyn o bryd, rhaid i ni aros i weld a fydd pethau’n sefydlogi ac a fydd y blaid yn ethol arweinydd credadwy. Mae’n gwestiwn hefyd a fydd Nigel yn aros gyda hi ai peidio…”

Yn ôl Arron Banks, sydd wedi dod â’i gefnogaeth ariannol i’r blaid i ben dros dro, does gan Paul Nuttall mo’r rhinweddau i fod yn arweinydd cryf.

Yn dilyn ymddiswyddiad Farage fel arweinydd ar ôl refferendwm Ewrop, dim ond 18 o ddiwrnodau y gwnaeth ei olynydd Diane James bara cyn iddi hithau ymddiswyddo. Fe ddychwelodd Nigel Farage fel arweinydd dros dro.