Mae ymladdwyr yn dal i geisio rheoli’r fflamau yng ngwesty hyna’ Lloegr.
Mae criwiau’n dal wrth eu gwaith yn y Royal Clarence Hotel yng Nghaerwysg, wedi i beipen nwy ffrwydro yno fore heddiw a gwaethygu’r sefyllfa oedd eisoes ar droes ers bore Gwener.
Fe gynheuodd y fflamau uwchben oriel gelf Castle Fine Art ddoe, wrth i waith atgyweirio ddigwydd yno. Fe ymledodd y fflamau wedyn i’r Well House Tavern, adeilad sy’n dyddio o’r 18eg ganrif.
Dyw hi ddim yn glir eto beth achosodd y tân, ond mae rhannau sylweddol o’r Royal Clarence wedi llosgi i’r ddaear. Mae rhan o wal flaen yr adeilad hefyd wedi cwympo, er bod tua 150 o ymladdwyr tân wedi bod ar waith yno.
Mae trigolion lleol wedi derbyn cais i gyfyngu ar faint o ddwr y maen nhw’n ei ddefnyddio er mwyn bod “cymaint o ddwr â phosib” ar gael i’r gwasanaethau brys.