Mae’r cwmni sy’n gyfrifol am gamerâu gor-yrru gogledd Cymru wedi ymddiheuro i nifer o fodurwyr sydd wedi cael eu dirwyo ar gam.

Roedd llythyrau wedi’u hanfon at yrwyr yn dweud eu bod nhw wedi bod yn gyrru’n rhy gyflwym trwy dwnnel Conwy yn ystod cyfnod o waith ffordd ar yr A55 yn ddiweddar.

Ond, roedd y gwaith dros nos wedi dod i ben, ac roedd rhywun wedi anghofio diffodd y camerâu oedd yn fflachio ar bawb oedd yn mynd dros 40 milltir yr awr.

Mae SiwrneSaff yn gwrthod dweud faint yn union o bobol sydd wedi derbyn llythyrau a dirwyon ar gam, ond mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau heddiw y byddan nhwthau hefyd yn anfon llythyr at y gyrwyr dan sylw yn dweud mai camgymeriad oedd y cyfan.