Taiz - canolfan ddiwylliannol sydd wedi dod yn ganolbwynt ymladd
Mae cyrch gan y cynghreiriaid, dan arweiniad Sawdi Arabia, wedi lladd teulu o 11 o bobol yn ninas Taiz yng ngorllewin y wlad.
Fe darodd y bom gartre’ dyn o’r enw Abdullah Abdo mewn ardal o’r enw al-Salw.
Dros y flwyddyn a hanner ddiwetha’, mae Taiz, dinas a fu’n ganolfan ddiwylliannol yng nghanolbarth Yemen, wedi cael ei rhwygo gan luoedd y cynghreiriaid a gwrthryfelwyr Shïaidd, sy’n cael eu nabod fel ‘Houthis’.
Mae’r ymladd wedi gwaethygu yn ardal al-Salw yn ystod y dyddiau diwetha’, ac mae nifer o deuluoedd wedi ffoi o’u cartrefi.