Mae Vodafone wedi cael dirwy o £4.6 miliwn gan y corff sy’n rheoleiddio’r diwydiant am fethiannau “difrifol ac annerbyniol” mewn rheolau diogelu defnyddwyr.
Daw wedi i ddau ymchwiliad gan Ofcom ddod i’r casgliad nad oedd y cwmni ffôn yn delio a chwynion cwsmeriaid yn gywir a’i fod wedi methu a rhoi arian yng nghyfrifon mwy na 10,400 o bobol oedd wedi talu i gael ‘top-up’. Digwyddodd hyn rhwng mis Ionawr 2014 a mis Tachwedd 2015; a mis Rhagfyr 2013 a mis Ebrill 2015, yn ôl eu trefn.
Dywedodd cyfarwyddwr grŵp defnyddwyr Ofcom, Lindsey Fussell: “Roedd methiannau Vodafone yn ddifrifol ac annerbyniol, ac mae’r dirwyon hyn yn anfon neges glir i bob cwmni cyfathrebu”.
Bydd yn rhaid i Vodafone dalu’r ddirwy o fewn 20 diwrnod ac fe fydd yr arian yn cael ei dalu i’r Trysorlys.
Dywedodd llefarydd ar ran Vodfaone, sydd bellach wedi talu credyd yn ôl i’r 10,400 cwsmer ac wedi cyfrannu £100,000 i elusennau yng ngwledydd Prydain: “Rydym yn edifar y methiannau hyn yn ein system a’n ymarferion. Rydym yn cynnig ymddiheuriad i unrhyw un gafodd eu heffeithio.”