Nicola Sturgeon
Mae Prif Weinidog yr Alban wedi cyhoeddi cynlluniau a allai arwain at ail refferendwm ar annibyniaeth.
Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar Fesur Drafft ar gynnal ail bleidlais, gyda Nicola Sturgeon yn mynnu y dylai pobol y wlad gael cyfle i ystyried eto ar ôl i Brydain bleidleisio am Brexit.
Er bod y Deyrnas Unedig wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, fe wnaeth bron i ddau o bob tri Albanwr bleidleisio i aros.
Dywedodd Nicola Sturgeon y bydd yn cyflwyno cynigion a fyddai’n cadw’r Alban yn y farchnad sengl hyd yn oed os bydd gweddill y Deyrnas Unedig yn gadael.
Bydd hefyd yn ymladd am “bwerau ychwanegol sylweddol” i’w Llywodraeth yn Holyrood, fel rhan o’r trafodaethau ar adael yr Undeb Ewropeaidd.
Ond os na fydd y trafodaethau hyn yn bodloni, mae wedi dweud y dylai Senedd yr Alban ystyried refferendwm ar annibyniaeth os mai dyna yw’r “ffordd orau neu’r unig ffordd o ddiogelu buddiannau’r Alban”.
Byddai pleidlais o’r fath yn digwydd cyn i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol, meddi Nicola Sturgeon.
‘Dim mandad’ yn ôl May
Ar y llaw arall, mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May, wedi mynnu nad oes mandad i’r Alban gynnal pleidlais arall ar ôl i’r wlad bleidleisio 55% i 45% o blaid aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig ym mis Medi 2014.
Bydd gweinidogion Yr Alban yn penderfynu a fyddan nhw’n gofyn i Aelodau’r Senedd yno gymeradwyo’r Mesur “dros y misoedd nesaf”.