Os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd ei tharged o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae angen i dros hanner yr ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg yng Nghymru droi yn rhai Cymraeg ‘ar fyrder’.

Dyna mae arbenigwr ar ddysgu Cymraeg wedi ei ddweud wrth gyflwyno tystiolaeth i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ei strategaeth ar gyfer miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Yn ôl Ioan Talfryn, Prif Weithredwr Canolfan Iaith Clwyd, ‘bydd angen gosod targedau heriol iawn’ a ‘monitro cynnydd yn barhaol’ er mwyn cael miliwn o siaradwyr.

Mae 562,000 o boblogaeth Cymru yn siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2011.

Mae Ioan Talfryn yn rhagweld yr angen i greu 15,000 o siaradwyr Cymraeg newydd pob blwyddyn am 32 o flynyddoedd, er mwyn cael 480,000 o siaradwyr Cymraeg ychwanegol erbyn 2050.

Oherwydd ‘bod llai na 1,000 o oedolion yn genedlaethol yn croesi’r trothwy i ruglder bob blwyddyn’, meddai Ioan Talfryn, ‘mae’n amlwg mai’r system addysg i blant yw’r llwybr pwysicaf o ran creu siaradwyr Cymraeg’.

Gydag oddeutu 26,000 o ddisgyblion ym mhob blwyddyn ysgol yn derbyn addysg Saesneg yng Nghymru, mae Ioan Talfryn yn credu bod ‘angen i dros 55% o’n hysgolion cynradd Saesneg presennol droi yn rhai cyfrwng Cymraeg ar fyrder’ er mwyn creu’r miliwn o siaradwyr.

Bydd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ei strategaeth ddrafft ar gyfer creu miliwn o siaradwyr yn dod i ben ddiwedd y mis.

Y flaenoriaeth

Yn ôl Ioan Talfryn fe ddylai’r Llywodraeth roi’r flaenoriaeth i ‘chwyldroi’r system addysg plant (gan gynyddu nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg yn sylweddol) a buddsoddi’n helaeth ym maes Cymraeg I Oedolion.  Law yn llaw â’r newidiadau fydd yn digwydd i’r maes llafur a’r cymhwyster Cymraeg yn y sector uwchradd (sef dileu Cymraeg Ail Iaith a chreu parhaedd ieithyddol) dylid sicrhau fod pob plentyn yn astudio o leiaf 30% o’r cwricwlwm trwy gyfrwng Y Gymraeg, hyd yn oed mewn ysgolion Saesneg.’