Nicola Sturgeon (llun llywodraeth agore)
Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi cyhoeddi cynllun i hybu enw da’r Alban yn Ewrop er mwyn ceisio lleihau effeithiau’r bleidlais Brexit.

Mae’r cynllun yn cynnwys mesurau i gynyddu presenoldeb yr Alban yn Ewrop, gyda rhwydwaith o gynrychiolwyr masnach ledled y cyfandir, a chanolfan fuddsoddi, a fydd yn cael ei sefydlu yn Berlin.

“All yr Alban ddim fforddio cael Boris Johnson a Liam Fox a’u tebyg i’n cynrychioli,” meddai Nicola Sturgeon yng nghynhadledd yr SNP yn Glasgow.

“Maen nhw’n encilio i gyrion Ewrop, rydym ni’n bwriadu ei aros yng nghanol Ewrop, lle mae’r Alban yn perthyn.

“Nid y perygl o golli’n lle yn y farchnad sengl yw’r unig fygythiad i’n heconomi er mor drychinebus fyddai hynny.

“Lawn mor ddifrifol yw’r neges ddinistriol – a chwbl gywilyddus – y mae’r Torïaid yn ei hanfon am weithwyr tramor a’r ansicrwydd mae hynny’n ei achosi i’n gwasanaethau cyhoeddus a chyflogwyr yr Alban.

“Yn fwy nag erioed, mae angen inni ddweud wrth ein cyfeillion Ewropeaidd fod yr Alban yn agored i fusnes.”