Llun: PA
Mae ’na bwysau cynyddol ar Theresa May i ganiatáu i Aelodau Seneddol gael pleidlais yn y Senedd ynglŷn â thelerau unrhyw gytundeb i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae ASau o’r holl brif bleidiau wedi dadlau nad oedd canlyniad y refferendwm yn bleidlais dros “Brexit caled.”

Byddai hyn yn golygu bod Prydain yn colli mynediad llawn i’r farchnad sengl fel rhan o gynlluniau i adennill rheolaeth dros fewnfudo.

Ond mae Downing Street yn mynnu “nad dyma’r ffordd dderbyniol ymlaen” ac y bydd y Senedd yn cael y cyfle i “drafod a chraffu ar y broses wrth iddi fynd rhagddi.”

Mae’r AS Ceidwadol Stephen Phillips, a oedd wedi cefnogi’r ymgyrch dros adael yr UE yn y refferendwm ar 23 Mehefin wedi rhybuddio yn erbyn gwrthod caniatáu ASau i bleidleisio dros delerau’r trafodaethau o dan Erthygl 50.

Ac mae’r cyn-Dwrne Cyffredinol, Dominic Grieve, wedi rhybuddio’r Llywodraeth y gallai gael ei diddymu os yw’n ceisio gorfodi cytundeb newydd gyda’r UE heb gymeradwyaeth ASau.

Daw’r datblygiadau wrth i’r Prif Weinidog ymweld â Denmarc a’r Iseldiroedd yn ystod y trafodaethau diweddaraf gyda’r 27 o wledydd eraill sy’n aelodau o’r Undeb. Ei bwriad yw ceisio sicrhau bod y berthynas dda yn parhau rhwng Prydain a’i chynbartneriaid yn dilyn Brexit.

Mae arweinwyr yr UE wedi mynnu hyd yn hyn na fydd unrhyw drafodaethau am gytundeb Brexit yn cael eu cynnal nes bod Erthygl 50 wedi’i gweithredu’n ffurfiol. Mae Theresa May wedi rhoi addewid i wneud hynny erbyn diwedd mis Mawrth 2017.

Mae Stephen Phillips wedi cael caniatâd llefarydd Tŷ’r Cyffredin John Bercow i geisio cael cefnogaeth ASau er mwyn cynnal dadl frys ddydd Mawrth am drafodaethau Brexit. Fe fydd yn cyflwyno’i achos yn y Senedd yn dilyn datganiad gan yr Ysgrifennydd Brexit David Davis prynhawn ma.