Llyr Gruffydd AC
Ni wnaeth Llywodraeth Cymru gyflogi’r un prentis yn 2015, er gwaethaf addewid maniffesto i gael 100,000 o gyfleoedd i brentisiaid yng Nghymru, yn ôl yr wrthblaid.

Mae’r AC Llŷr Gruffydd o Blaid Cymru yn honni i Gais Rhyddid Gwybodaeth ddangos bod gostyngiad yn niferoedd y prentisiaid wedi bod ers 2011.

Datgelodd y cais bod y Llywodraeth wedi cyflogi 68 o brentisiaid yn 2011, 48 yn 2012, 28 yn 2013 a 22 yn 2014. Yn ben llanw i hynny, ni chafodd yr un cyfle ei roi i brentis o fewn y sefydliad yn 2015.

Mae’r Llywodraeth wedi cyflogi 19 o brentisiaid hyd yn hyn yn 2016.

‘Gosod esiampl well’

Esboniodd Llyr Gruffydd: “Mae Llywodraeth Cymru yn gyflogwr mawr gyda thros 5,000 o weithwyr ledled Cymru. Mae ganddi darged o 100,000 o brentisiaid dros y bum mlynedd nesaf ac fe ddylid gosod esiampl well.

“Fe fydd cyflogwyr yn amau os ydi’r Llywodraeth o ddifrif am yr addewid os nad yw’n cyflogi prentisiaid ei hun.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.