Llun: PA
Fe allai pobl sy’n cyhoeddi gwybodaeth bersonol, fel hashtags neu luniau sarhaus, ar y rhyngrwyd gael eu herlyn o dan ganllawiau cyfreithiol newydd.
Fe fydd y cyfryngau cymdeithasol yn cael eu plismona’n fwy llym ar ôl i Wasanaeth Erlyn y Goron gyhoeddi rheolau yn ymwneud a throseddau lle gall defnyddwyr wynebu cyhuddiadau troseddol.
Mae annog eraill i aflonyddu ar rywun ar-lein ymhlith y troseddau sy’n cael eu cynnwys yn y canllawiau sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.