Mae ditectifs sy’n ymchwilio i ddiflaniad bachgen 21 mis oed yn 1991 wedi dweud eu bod nhw’n parhau i gynnal eu hymchwiliad ar ynys Kos oddi ar Wlad Groeg.
Aeth Ben Needham o Sheffield ar goll o ffermdy ar yr ynys yn 1991.
Mae disgwyl i’r heddlu chwilio tir ger y ffermdy ac fe allai gymryd cryn amser, yn ôl yr heddlu, sy’n dweud y byddan nhw’n teimlo ar ôl chwilio’r tir eu bod nhw wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i ddod o hyd iddo.
Mae disgwyl i’r chwilio bara deuddydd neu dridiau yr wythnos hon.
Ond mae’r heddlu’n gwadu eu bod nhw wedi dechrau chwilio trydydd safle ar yr ynys, gan ddweud eu bod nhw wedi cael rhagor o wybodaeth am rwbel a gafodd ei ollwng 25 o flynyddoedd yn ôl.
Mae mam Ben, Kerry Needham wedi cael rhybudd y dylai hi “baratoi” am newyddion drwg am ei mab.