Mae Llywodraeth Prydain wedi rhoi sêl bendith i ail-ddechrau ffracio ar safle yn Swydd Gaerhirfryn, gan fynd yn erbyn penderfyniad y cyngor sir ar y mater.
Gall y broses ddadleuol barhau, ar ôl i’r Ysgrifennydd Cymunedau, Sajid Javid, ganiatáu i gwmni siâl, Cuadrilla, ddrilio hyd at bedwar pant, ger y Fylde.
Ond mae ‘na oedi ar benderfyniad i ddrilio ail safle yn yr un sir, sydd heb gael yr un caniatâd eto am fod pryderon dros yr effeithiau posib ar yr ardal leol.
Cafwyd gwaharddiad dros dro ar ffracio ym Mhrydain yn 2011 ar ôl i’r broses achosi dau ddaeargryn bach yn Swydd Gaerhirfryn.