Y Canghellor Philip Hammond Llun: PA
Mae’r Canghellor Philip Hammond wedi cadarnhau y bydd yn cyflwyno newidiadau i bolisïau cyllidol y Llywodraeth yn Natganiad yr Hydref fis nesaf, gyda chynllun “pragmatig” i ehangu’r sgôp i fuddsoddi a hybu’r economi.
Ers i Theresa May ddod yn Brif Weinidog ym mis Gorffennaf, mae hi a Philip Hammond wedi ei gwneud yn glir eu bod am sgrapio targed George Osborne i leihau’r diffyg erbyn 2020.
Roedd y cyn-Ganghellor wedi cydnabod ei hun y byddai’n annhebygol cyrraedd y targed yn dilyn pleidlais y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Ond fe fydd Philip Hammond yn defnyddio ei araith yng nghynhadledd flynyddol y Ceidwadwyr yn Birmingham i awgrymu nad yw hyn yn golygu diwedd i’r cyfnod llymder a gafodd ei gyflwyno gan George Osborne yn 2010.