Theresa May Llun; Hannah McKay/PA Wire
Mae Prif Weinidog Prydain wedi cyhoeddi yng nghynhadledd y blaid Geidwadol yn Birmingham y bydd y trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd yn dechrau ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf gyda’r broses yn parhau am ddwy flynedd.

Ychwanegodd Theresa May ei bod am “ymgynghori a gweithio” gyda’r llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Ond, er hyn, pwysleisiodd mai Llywodraeth Prydain yn unig fydd yn negydu’r cytundeb, ac y bydd pob un o bedair cenedl y Deyrnas Unedig yn cymryd rhan yn Brexit.

Gwrthod Brexit ‘caled’ neu ‘feddal’

Cadarnhaodd hefyd gynlluniau ar gyfer y Bil Diddymu Mawr, fydd yn dod â Deddf Cymunedau Ewrop 1972 i ben.

Golyga hyn y gall y llywodraeth gadw at y cyfreithiau Ewropeaidd maen nhw’n teimlo sy’n dal yn berthnasol i wledydd Prydain ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

A gwrthododd y Prif Weinidog ddadleuon y byddai’n rhaid i Brydain ddewis rhwng cytundeb Brexit “caled” lle byddai Prydain yn adennill rheolaeth dros fewnfudo ond yn colli mynediad llawn i’r farchnad sengl – gyda chytundeb Brexit “meddal” lle mae mynediad i’r farchnad sengl yn dod gyda sicrhau symudiad rhydd i weithwyr yr UE.

Dywedodd Theresa May ei bod am sicrhau cytundeb sy’n caniatáu “masnach rydd mewn nwyddau a gwasanaethau” gan roi i gwmnïau Prydeinig “y rhyddid mwyaf i fasnachu a gweithredu yn y farchnad sengl a gadael i fusnesau Ewropeaidd wneud yr un peth yma.”

Ychwanegodd na fyddai Brexit yn torri’r Deyrnas Unedig i ffwrdd o weddill y byd, ond yn hytrach yn ei weddnewid i “Brydain byd-eang, gyda hunanhyder a’r rhyddid i edrych y tu hwnt i gyfandir Ewrop ar gyfer cyfleoedd economaidd a diplomataidd y byd yn ehangach.”