Fe fydd Prif Weinidog Prydain, Theresa May yn cyhoeddi cynlluniau i ddod â rhai o ddeddfau Ewrop yn rhan o gyfreithiau Prydain wrth i’r llywodraeth baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd hi’n cyhoeddi yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol yn Birmingham y bydd y Bil Diddymu Mawr yn dod â Deddf Cymunedau Ewrop 1972 i ben. Fe fydd hefyd yn diddymu perthnasedd Llys Cyfiawnder Ewrop i wledydd Prydain.

Bydd hyn yn golygu y gall y llywodraeth gadw at y cyfreithiau Ewropeaidd maen nhw’n teimlo sy’n dal yn berthnasol i wledydd Prydain ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe fyddai’r cynllun hefyd yn rhoi sicrwydd i fusnesau a gweithwyr sy’n cael eu rheoli gan ddeddfau Ewrop.

Dywedodd May wrth bapur newydd y Sunday Times mai hwn yw’r “cam cyntaf” tuag at adael yr Undeb Ewropeaidd, gan ddod ag “awdurdod cyfreithiau’r Undeb Ewropeaidd i ben”.

Mae Ysgrifennydd Brexit Llywodraeth Prydain, David Davis wedi wfftio honiadau y bydd y gadael yr Undeb Ewropeaidd yn lleihau hawliau gweithwyr.

Ni fydd y cynllun yn dod i rym yn swyddogol tan bod Cymal 50 Cytundeb Lisbon yn dod i rym.