Yn ôl arolwg newydd, byddai ymdrechion i ddiddymu’r Ddeddf Hela yn “amhoblogaidd iawn” ymhlith pobol gwledydd Prydain.
Canfyddodd arolwg Ipsos MORI ar ran elusen lles anifeiliaid, y League Against Cruel Sports, fod 84% o’r cyhoedd ddim am weld hela llwynog yn dod yn ôl.
Roedd y gwrthwynebiad i hela sgwarnogod a cheirw yn gryfach eto, gyda 91% ddim am i sgwarnogod gael eu hela ac 88% yn erbyn hela ceirw.
Yn ôl yr arolwg, mae’r gwaharddiad ar hela llwynogod hefyd yn tyfu mewn poblogrwydd ymhlith pobol sy’n pleidleisio dros y Ceidwadwyr, gyda 73% yn ei erbyn o gymharu â 64% yn 2013.
Ystyried codi’r gwaharddiad?
Mae’r Ysgrifennydd Amgylchedd, Andrea Leadsom, wedi awgrymu y byddai’n ystyried codi’r gwaharddiad ar hela llwynogod a ddaeth i rym yn 2004.
Mae wedi cael ei beirniadu gan brif weithredwr y League Against Cruel Sports, Eduardo Goncalves, sy’n dweud ei bod yn bryd iddi “ymuno â gweddill y wlad a chefnogi’r gwaharddiad”.
“Fe wnaeth y Ddeddf Hela wneud hela anifeiliaid gwyllt â chŵn fel chwaraeon yn anghyfreithlon, gan ddiogelu nifer o anifeiliaid fel llwynogod, sgwarnogod a cheirw,” meddai.
Roedd yr arolwg hefyd wedi canfod y byddai 65% yn debygol o fod yn fwy cefnogol i ymgeisydd mewn etholiad os byddai’n cefnogi cadw hela â chŵn yn anghyfreithlon.
Dim ond 9% oedd yn dweud y byddan nhw’n fwy cefnogol i ymgeisydd sydd am godi’r gwaharddiad.