Andronicos Sideras, un o'r tri fu yn y llys heddiw (Llun: PA)
Mae tri dyn wedi ymddangos yn y llys heddiw wedi’u cyhuddo o ffugio a gwerthu cig ceffyl fel cig eidion.
Ymddangosodd y tri yn Llys yr Ynadon Dinas Llundain heddiw ar amheuaeth o drefnu’n anonest i gig ceffyl gael ei gyfuno, ei werthu a’i labelu fel cig eidion ym marchnad gig y Deyrnas Unedig.
Cafodd Andronicos Sideras, 54 oed, o Lundain, ac Alex Beech, 44 oed, o Hull, eu harestio gyntaf ym mis Gorffennaf 2013, a’r trydydd dyn, Ulrik Nielsen, o Ddenmarc ei holi gan yr heddlu fis yn ddiweddarach.
Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud â gwerthiant cig ceffyl rhwng 1 Ionawr 2012 a 31 Hydref y flwyddyn honno, gyda sgandal y cig ceffyl yn dod i’r amlwg yn 2013.
‘Amheuaeth o gynllwynio i dwyllo’
Cafodd y tri eu cyhuddo ar y cyd heddiw ar amheuaeth o gynllwynio i dwyllo yn dilyn ymchwiliad rhyngwladol gan Heddlu Dinas Llundain a weithiodd ar y cyd â’r Asiantaeth Safonau Bwyd.
Cawsant eu rhyddhau ar fechnïaeth dan orchymyn i ddychwelyd i Lys y Goron Llundain ar Hydref 25.