Ben Needham Llun: PA
Mae’r heddlu sy’n chwilio am y bachgen Ben Needham ar ynys Kos yng Ngwlad Groeg yn dweud eu bod wedi dod o hyd i eitemau sydd “o beth diddordeb” wrth iddyn nhw gloddio ger safle lle cafodd ei weld ddiwethaf.
Mae 19 o swyddogion o Heddlu De Swydd Efrog, ynghyd ag arbenigwyr fforensig ac archeolegydd wedi bod yn chwilio safle ger fferm lle cafodd Ben Needham, a oedd yn 21 mis oed ar y pryd, ei weld yn chwarae ym mis Gorffennaf, 1991.
Fe ddechreuodd yr heddlu ail-gloddio’r safle ddydd Llun yn dilyn tystiolaeth newydd y gallai’r bachgen bach o Sheffield fod wedi’i ladd yn ddamweiniol gan gloddiwr a’i gladdu yno, ger y tŷ yr oedd ei daid yn ei adfer ar y pryd.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Jon Cousins o Heddlu De Swydd Efrog bod y tîm wedi gwneud cynnydd da wrth chwilio am dystiolaeth newydd bosib.
“Yn ôl y disgwyl, fe ddaethon ni o hyd i nifer fawr o esgyrn ddoe. Cafodd pob un ei archwilio a’i ddiystyru am ei fod yn asgwrn anifail.
“Mae yna eitemau eraill sydd o beth diddordeb – darnau o ddefnydd, sy’n cael eu harchwilio.
“Mae popeth yn cael ei archwilio’n ofalus.”
Mae disgwyl i’r chwilio ar y safle barhau am o leiaf wythnos.