Mae dyn o Fanceinion wedi’i gyhuddo â nifer o achosion o droseddau terfysgol.
Mae Mohammed Abdallah, 25, o ardal Moss Side yn y ddinas, wedi’i gyhuddo o dri achos dan Ddeddf Terfysgaeth 2000. Yn eu plith y mae bod yn aelod o fudiad neu sefydliad gwaharddedig.
Fe fydd Mohammed Abdallah yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster yn Llundain ddydd Gwener.