Mae tri o bobol wedi cael eu cludo i’r ysbyty yn dilyn ymosodiad ben bore yn Swydd Caint.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad am 7.50yb yn Broadstairs.

Fe gafodd parafeddygol o Wasanaeth Ambiwlans Arfordir y De Ddwyrain eu galw, ac fe aethon nhw â dau o bobol i’r ysbyty, tra bod trydydd unigolyn wedi’i gludo i ysbyty yn Llundain.

Mae ymladdwyr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Caint yn parhau yn y fan a’r lle, yn ceisio diffodd tân ar y safle.