Ffoaduriaid o Syria Llun: PA
Fe fydd y Theresa May yn amlinellu ei chynlluniau i fynd i’r afael ag argyfwng y ffoaduriaid wrth iddi gwrdd ag arweinwyr byd yn Efrog Newydd heddiw yn uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig.
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog ddweud y dylai ffoaduriaid wneud cais am loches yn y wlad ddiogel gyntaf maen nhw’n ei chyrraedd. Mae hi’n dadlau bod y duedd i’w symud ymlaen yn golygu eu bod yn wynebu rhagor o beryglon a bod gangiau troseddol yn elwa.
Fe fydd hi hefyd yn pwysleisio bod gan wledydd yr hawl i reoli eu ffiniau a chyfrifoldeb i atal mewnfudwyr sy’n cyrraedd yn anghyfreithlon.
‘Lefelau digynsail’
Yn uwchgynhadledd gyntaf y Cenhedloedd Unedig i drafod ffoaduriaid a mewnfudwyr, fe fydd Theresa May yn pwysleisio bod angen cymryd mesurau brys i fynd i’r afael a “lefelau digynsail” o ffoaduriaid.
Cyn yr uwch-gynhadledd dywedodd Theresa May bod angen “gwell ymateb sy’n canolbwyntio ein hymdrechion dyngarol ar y ffoaduriaid hynny sydd mewn angen dybryd ac sydd hefyd yn cynnal hyder y cyhoedd yn y budd economaidd o fewnfudo cyfreithlon sy’n cael ei reoli,”
Yn ogystal â chymryd rhan yn yr uwchgynhadledd, sy’n cael ei gadeirio gan yr ysgrifennydd cyffredinol Ban Ki-moon, fe fydd Theresa May hefyd yn cymryd rhan mewn cynhadledd i drafod ffoaduriaid sy’n cael ei gynnal gan Arlywydd yr Unol Daleithiau Barack Obama ddydd Mawrth.