Mae’r ddynes gynta’ i fod yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC yn camu o’r neilltu, ar ôl dim ond dwy flynedd yn y swydd.

Fe ddaeth y cyhoeddiad yn hwyr neithiwr bod Rona Fairhead wedi penderfynu rhoi’r gorau iddi yn hytrach na cheisio i fod yn bennaeth ar Ymddiriedolaeth newydd y BBC a fydd yn dod i fodolaeth yn gynnar y flwyddyn nesa’.

Mewn datganiad, mae’n dweud fod Prif Weinidog Prydain, Theresa May, wedi ei “hannog yn gry'” i gynnig am y rôl bedair blynedd. Ond, meddai, “wedi llawer o ystyried, dw i wedi dod i’r casgliad na ddylwn ymgeisio”.

Gwell, meddai Rona Fairhead, fyddai i’r Llywodraeth “benodi rhywun o’r newydd” i fod yn Gadeirydd yr Ymddiriedolaeth, ac iddi hi ei hun ganolbwyntio ar ei gyrfa yn y sector preifat fel yr oedd wedi bwriadu gwneud wedi i’w thymor presennol yn Gadeirydd ddod i ben yn 2018.