Trystan Lewis
Fe fydd un o ymgeiswyr Plaid Cymru yn agor ysgol gerdd newydd i blant cynradd ac uwchradd Conwy yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Nos Iau, fe fydd aelodau newydd sbon Ysgol Canwy (sy’n gyfuniad o’r geiriau ‘Conwy’ a ‘canu’) yn cwrdd am y tro cyntaf i ffurfio dau gôr o dan arweiniad Trystan Lewis.
Yn ogystal â’i rôl fel ymgeisydd Aberconwy, mae Trystan Lewis yn gerddor amryddawn a bu’n arwain corau ers ei ddyddiau fel myfyriwr yn Aberystwyth. Ei fwriad wrth gychwyn yr ysgol gerdd newydd gyda’i wraig Llinos Dewi-Lewis, yw dysgu’r aelodau i ddarllen cerddoriaeth fel eu bod nhw’n medru cyfrannu at draddodiad cerddorol a chorawl Cymru yn y dyfodol.
“Dw i erioed wedi arwain côr plant o’r blaen. Mi fues i’n arwain Côr Meibion Maelgwn am bymtheg mlynedd a chymdeithasau corawl hefyd – mi fydd o’n sialens hollol newydd i mi,” meddai’r cynghorydd.
“Mae ysgolion fel Glanaethwy ac Ysgol Gerdd Ceredigion wedi rhoi gymaint o gyfleoedd i blant dros y blynyddoedd… a beth yw’n nod i yn fwy na dim ydy dysgu pobol ifanc i ddarllen cerddoriaeth, er mwyn rhoi iaith arall iddyn nhw.”
Ysgolion ‘methu cyflawni’
Wrth gyfuno gwleidyddiaeth a cherddoriaeth, mae Trystan Lewis hefyd yn gobeithio llenwi bwlch sydd wedi datblygu yn wyneb toriadau i wasanaethau cerdd yn ysgolion Cymru.
“Mae’r toriadau yn tanseilio popeth sydd ganddom ni fel cenedl. Da’ ni’n galw’n hunain yn wlad y gan ond mi ydan ni’n mynd am yn ôl. Mae ’na agweddau ar gorau Cymru mewn sefyllfa iach, ond mae ’na hefyd lot o gorau eraill sydd yn stryglo ac mi faswn i’n hoffi i’r ysgol fwydo corau’r dyfodol. Y broblem fawr ydy darllen cerddoriaeth. Dyle bod y pwyslais wedi symud i ysgolion ond dydyn nhw methu cyflawni.”
Mae gobaith hefyd y bydd yr ysgol yn datblygu i fedru cynnig gwersi llais unigol, gwersi drama a gwersi offerynnol ymhen amser.
Bydd yr ymarfer cyntaf yn cael ei gynnal yn Ysgol Maelgwn yng Nghyffordd Llandudno am 4yh i blant cynradd a 5:30yh i oedran uwchradd.