Athrawon Ysgol Castell Nedd ar ddiwrnod Roald Dahl
Mae ‘na Gymry ar hyd y wlad yn camu nôl i’w plentyndod heddiw wrth gofio am straeon a chyfraniad y storïwr Roald Dahl.

Mae hi’n 100 mlynedd ers geni un o awduron plant mwyaf poblogaidd y byd yn Llandaf, ger Caerdydd.

Roedd ei rieni yn hanu o Norwy ac ers cyhoeddi ei waith cyntaf yn 1940 mae wedi cael ei gyfeirio ato fel ‘storïwr plant gorau’r 20fed ganrif’.

I ddathlu’r garreg filltir, mae plant ac athrawon Cymru – gan gynnwys Ysgol Gynradd Gymraeg Castell Nedd – wedi tyrchu i mewn i’w tybiau dillad ffansi ac wedi gwisgo fel eu hoff gymeriadau.

Fe fydd Ysgrifennydd yr Economi a Seilwaith, Ken Skates, hefyd yn dadorchuddio mainc arbennig sy’n ymdebygu at grocodeil mawr ym Mae Caerdydd.

Ag yntau’n enwog fel awdur fyddai’n dyfeisio geiriau newydd, fe gyhoeddwyd ddoe y bydd rhai o’r geiriau hynny’n cael eu hanrhydeddu wrth eu rhoi ar gof a chadw yng Ngeiriadur Saesneg Rhydychen.

Mae’r geiriau hynny’n cynnwys Oompa Loompascrumdiddyumptious a human bean.

Yn ogystal, mae Canolfan Ffilm Cymru yn dangos amryw o ffilmiau Roald Dahl mewn canolfannau ledled y wlad.

Mae llyfrau fel James and the Giant Peach, Charlie and the Chocolate Factory, Matilda a The BFG wedi gwerthu dros 250 miliwn o gopïau ar draws y byd.