Mark Cavendish (llun: Wikipedia)
Mae ras feics y Tour of Britain yn cychwyn yn Glasgow heddiw.
Dros y saith diwrnod nesaf fe fydd y beicwyr yn rasio 797 milltir gan orffen yn Llundain wythnos i heddiw.
Ymhlith y pencampwyr sy’n cystadlu mae Syr Bradley Wiggins, a enillodd wythfed medal Olympaidd a phumed medal aur yn Rio yn ddiweddar, a Mark Cavendish, a enillodd fedal arian yn Rio. Ef hefyd sy’n dal record Prydain fel enillydd yn y Tour de France.
Hon fydd ras olaf Wiggins ym Mhrydain gan y bydd yn rhoi’r gorau i’w yrfa broffesiynol yn ras y Ghent Six ym mis Tachwedd.
Mae 21 o dimau yn cystadlu yn y ras sy’n cychwyn am 11.30 y bore yma, gyda’r beicwyr yn rasio o gwmpas dinas Glasgow cyn cychwyn taith o 100 milltir i Castle Douglas.