Mae astudiaeth newydd yn awgrymu bod merched gyda phlant yn fwy tebygol o ennill cyflogau is na dynion.

Dyna gasgliad astudiaeth gan Sefydliad Astudiaethau Ariannol (IFS) sy’n amlygu bod cyfradd cyflogau merched ar gyfartaledd 18% yn llai na dynion.

Er hyn, mae’r astudiaeth yn nodi bod y bwlch rhwng cyflogau dynion a merched wedi lleihau yn ystod y blynyddoedd diweddar – pan fyddai merched yn cael eu talu 23% yn llai na dynion yn 2003, a 28% yn 1993.

‘Bwlch yn lledu ar ôl magu teulu’

Ond, mae’r astudiaeth hefyd yn tynnu sylw at y ffaith fod y bwlch yn lledu o flwyddyn i flwyddyn unwaith i ferched ddechrau magu teulu.

Mae’n awgrymu fod merched fel arfer yn cael eu talu 33% yn llai na dynion erbyn bod eu plentyn hynaf yn 12 oed.

Un rheswm dros hyn, yn ôl yr adroddiad, ydy bod merched yn fwy tebygol o weithio llai o oriau ar ôl cael plant, ac felly’n colli’r cyfleoedd am ddyrchafiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngres yr Undebau Llafur (TUC), Frances O’Grady: “Mae’n warthus bod miliynau o fenywod yn parhau i ddioddef dirwy ariannol am fod yn famau.

“Heb fwy o swyddi rhan amser sy’n talu’n well a gofal plant fforddiadwy, bydd y bwlch cyflog o ran rhyw yn cymryd degawdau i’w gau,” meddai wedyn.

Busnesau i gyhoeddi cyflogau

Mewn ymateb i’r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth San Steffan: “Mae’r bwlch cyflog o ran rhyw ar ei lefel isaf eto, ond rydym yn cydnabod fod angen gwneud mwy o gynnydd a hynny’n gyflym.”

“Dyna pam rydym yn parhau â chynlluniau i orfodi busnesau i gyhoeddi eu cyflogau a’u taliadau ychwanegol ar sail rhyw – gan droi’r sylw at yr hyn sy’n rhwystro merched rhag cyrraedd y brig,” ychwanegodd.