Blodau ger safle damwain sioe awyr Shoreham, yng ngorllewin Sussex Llun: PA
Fe fydd munud o dawelwch yn cael ei gynnal heddiw  i gofio’r 11 o ddynion a fu farw yn namwain awyr Shoreham, union flwyddyn ers y trychineb.

Cynhelir y munud o dawelwch am 1.22pm ddydd Llun – yr union amser ers i’r awyren blymio i’r ddaear ar ffordd yr A27 yng ngorllewin swydd Sussex yn ystod sioe awyr Shoreham.

Fe fydd enwau’r 11 yn cael eu cyhoeddi gan y Parchedig Canon Ann Waizeneker, gyda blodau yn cael eu gosod i gofio’r trychineb ger safle’r ddamwain.

Fe fydd teuluoedd y meirw, y gwasanaethau brys ac arweinwyr dinesig yn mynychu’r digwyddiad ac fe fydd baneri yn chwifio ar hanner  mast uwchben holl adeiladau cyhoeddus gorllewin Sussex.