Fe fydd yr eithafwyr Islamaidd mwyaf peryglus yn cael eu carcharu mewn unedau ar wahân yng Nghymru a Lloegr yn dilyn ymchwiliad sy’n honni eu bod yn radicaleiddio poblogaeth Fwslimaidd ehangach y carchar.

Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu gwahardd llenyddiaeth eithafol o’r carchardai a gwella hyfforddiant y staff i adnabod ac atal eithafiaeth a dylanwadau radical.

Ac mae Gweinidogion y Llywodraeth wedi cadarnhau bod cynlluniau ar y gweill i greu unedau arbenigol i waredu â’r eithafwyr mwyaf peryglus o boblogaeth gyffredinol y carchar.

‘Rhaid ei drechu’

Mae’r adroddiad yn amlygu fod 137 o’r 147 o bobol sydd wedi eu carcharu am droseddau’n ymwneud â brawychiaeth yn ystyried eu hunain i fod yn Fwslimiaid.

Yn ychwanegol at hynny, mae ffigurau llynedd yn amlygu bod 12,633 o Fwslimiaid mewn carchardai yng Nghymru a Lloegr o gymharu â 8,243 ddegawd yn ôl.

“Mae eithafiaeth Islamaidd yn beryg i gymdeithas ac yn fygythiad i ddiogelwch y cyhoedd – mae’n rhaid ei drechu lle bynnag y mae,” meddai’r Ysgrifennydd Cyfiawnder Liz Truss.

“Mae atal yr eithafwyr mwyaf peryglus rhag radicaleiddio carcharorion eraill yn hollbwysig i redeg ein carchardai yn ddiogel ac yn hollbwysig ar gyfer diogelwch y cyhoedd,” meddai wedyn.