Mike Ashley o flaen pencadlys y cwmni yn Swydd Derby (Llun: Joe Giddens/PA Wire)
Fe fydd adroddiad ar arferion gwaith cwmni Sports Direct yn cael ei gyhoeddi fis nesaf, yn dilyn honiadau nad yw’r staff yn derbyn yr isafswm cyflog.

Mewn datganiad, dywedodd cwmni Mike Ashley, cadeirydd tîm pêl-droed Newcastle, y bydd canlyniadau ymchwiliad gan y cwmni cyfreithiol RPC yn cael eu cyhoeddi ar Fedi 5 cyn cyfarfod cyffredinol blynyddol y cwmni chwaraeon ddeuddydd yn ddiweddarach.

Daeth cadarnhad ddechrau’r wythnos y byddai gweithwyr warws y cwmni’n derbyn ad-daliad o £1 miliwn gan nad oedden nhw wedi bod yn derbyn yr isafswm cyflog am eu gwaith.

Dywedodd Ashley wrth Bwyllgor Busnes San Steffan ym mis Mehefin nad oedd staff yn cael eu talu yn ystod yr amser mae’n ei gymryd i gynnal archwiliadau diogelwch, sy’n golygu nad oedden nhw felly yn derbyn isafswm cyflog am yr holl oriau maen nhw ar y safle.

Mae’r undeb, Unison, yn galw ar gyfranddalwyr i gefnogi arolwg ar wahân i arferion gwaith y cwmni.