Anjem Choudary
Mae’r heddlu’n ymchwilio i wraig y pregethwr radicalaidd Anjem Choudary ar ôl iddi ymddangos mewn rhaglen ddogfen am fenywod Prydeinig sy’n cefnogi’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).
Mae’r rhaglen, a ddarlledwyd ym mis Tachwedd 2015, yn dangos Rubana Akhtar yn siarad am y gynllwynion yn erbyn Mwslimiaid ac yn cyfeirio at “Iddewon budr”.
Ddoe codwyd gwaharddiad oedd yn golygu bod y wasg yn gallu adrodd am y tro cyntaf bod ei gŵr, Anjem Choudary, yn wynebu dedfryd o garchar am annog pobl i gefnogi IS.
Roedd y tad i bump yn ffigwr blaenllaw yn y grŵp eithafol a gafodd ei wahardd, al-Muhajiroun, a mae ei ddilynwyr wedi mynd ymlaen i fod yn rhan o ddigwyddiadau brawychol gan gynnwys llofruddiaeth y milwr Lee Rigby.
Roedd Anjem Choudary, 49, yn annog cefnogaeth i’r grŵp brawychol mewn cyfres o sgyrsiau a gafodd eu postio ar YouTube.
Cafwyd Anjem Choudary a’i gyd-ddiffynnydd Mohammed Mizanur Rahman, 33, yn euog o annog cefnogaeth i IS rhwng 29 Mehefin, 2014 a 6 Mawrth, 2015.
Yn ystod achos Anjem Choudary, clywodd y llys bod ei wraig wedi cael biliau ffôn o hyd at £100 wrth geisio lledaenu ei barn eithafol.
Cadarnhaodd Scotland Yard ei fod wedi lansio ymchwiliad yn sgil gweld y rhaglen ddogfen roedd hi’n ymddangos ynddo.