Mae dyn 34 oed wedi’i gyhuddo, wedi i blismon gael ei daro gan fan Ford Transit.

Yn ôl Heddlu Sir Gaerlyr, roedd yr heddwas yn ymateb i adroddiadau yn Loughborough brynhawn Sul pan gafodd ei daro i lawr gan y fan.

Fe gafodd ei gludo i Ganolfan Feddygol y Frenhines yn Nottingham, ac mae bellach mewn cyflwr sefydlog.

Mae disgyl i Mark Courtney Johnson ymddangos gerbron ynadon y ddinas wedi’i gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol; o yrru’n beryglus ac achosi niwed; o yrru tra wedi’i wahardd; yn ogystal â dau gyhuddiad o ladrata.