Jeremy Corbyn (Llun: PA)
Mae prisiau tocynnau trên wedi cynyddu ar ddwbwl cyflymder o gyflogau ers 2010, yn ôl dadansoddiad.
Dangosodd ymchwil gan y undeb TUC a grwp ymgyrch rheilffyrdd bod prisiau wedi codi 25% yn y chwe blynedd diwethaf tra bod cyflogau wythnosol wedi cynyddu 12%, ar gyfartaledd.
Caiff y ffigyrau eu cyhoeddi y fel mae disgwyl Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi rhagor o gynnydd mewn pris tocyn trên ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Ond mae disgwyl i Jeremy Corbyn addo “ailadeiladu a thrawsnewid” rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gwledydd Prydain heddiw wrth iddo amlinellu cynlluniau i ail wladoli’r rheilffyrdd.
Mae arweinydd Llafur yn credu bod angen i’r rheilffyrdd ddod o dan berchnogaeth gyhoeddus er mwyn mynd i’r afael â’r “hunllef trafnidiaeth” sy’n bodoli ar hyn o bryd.
Cynnydd o 21% i gyfranddalwyr
Wrth i brisiau ar gyfer teithwyr godi, mae cyfranddalwyr cwmnïau trenau preifat wedi gweld eu taliad blynyddol yn codi 21% yn y flwyddyn ddiwethaf i £222 miliwn yn ôl TUC.
Dywedodd y Gweinidog Rheilffyrdd Paul Maynard ei fod yn gobeithio y gallai pob ochr ddod o hyd i ffordd i weithio gyda’i gilydd i ddarparu “rheilffordd modern” sy’n darparu’r “perfformiad mae teithwyr eisiau”.
Mewn araith heddiw, mae disgwyl i Jeremy Corbyn ddweud y byddai ail wladoli’r rheilffyrdd yn arbed tua 10% i deithwyr.
Wrth amlinellu ei gynlluniau am well trafnidiaeth cyhoeddus, mae hefyd eisiau cyflwyno mesurau i gynyddu llwybrau bws mewn ardaloedd gwledig.