Jeremy Corbyn ac Owen Smith
Mae’r Blaid Lafur wedi ennill ei her gyfreithiol i wrthdroi penderfyniad yr Uchel Lys, oedd wedi dyfarnu y byddai aelodau newydd yn cael pleidleisio yn yr etholiad i ddewis arweinydd.

Mae’r Llys Apêl wedi caniatáu i’r Blaid gadw at benderfyniad y Pwyllgor Rheoli (NEC) i atal degau o filoedd o aelodau newydd rhag pleidleisio.

Penderfynodd yr NEC ym mis Gorffennaf na fyddai aelodau llawn o’r blaid yn cael pleidleisio os nad ydyn nhw wedi bod yn aelodau am o leiaf chwe mis hyd at 12 Gorffennaf.

Roedd penderfyniad yr Uchel Lys ddydd Llun yn hwb amlwg i Jeremy Corbyn yn ei frwydr i gael ei ail ethol yn arweinydd y Blaid Lafur, gan fod disgwyl i fwyafrif yr aelodau newydd ei gefnogi ef yn hytrach na’i wrthwynebydd, AS Pontypridd, Owen Smith.

Ond mae’r dyfarniad heddiw’n golygu na fydd 150,000 o aelodau newydd, wnaeth ymaelodi rhwng Ionawr a Gorffennaf eleni, yn cael bwrw pleidlais.

Mae’n debyg bod bron i chwarter miliwn o bunnau o goffrau’r blaid wedi cael eu gwario ar yr achosion llys hyd yn hyn yr haf hwn.