Mae cwmni Lidl wedi dweud ei fod yn ystyried apelio yn erbyn dyfarniad barnwrol ddoe a oedd yn rhoi’r hawl i weithwyr yr archfarchnad ymuno gydag undeb.

Roedd undeb y GMB wedi bod yn llwyddiannus wrth herio penderfyniad yr archfarchnad i rwystro gweithwyr eu warws ym Mhen-y-bont ar Ogwr rhag cael eu cynrychioli.

Roedd y GMB wedi disgrifio’r fuddugoliaeth fel “carreg filltir”.

Ond heddiw, cyhoeddodd llefarydd ar ran Lidl eu bod yn “siomedig” gyda’r penderfyniad gan y Pwyllgor Cymrodeddu Canolog a’u bod ar hyn o bryd yn ystyried apêl.

Ychwanegodd y llefarydd eu bod yn credu bod eu gweithwyr yn “cael eu cynrychioli’n deg o fewn y busnes, heb orfod ymgysylltu ag undebau a chreu gweithlu tameidiog”.

Dywedodd hefyd bod y cwmni wedi ymrwymo i sicrhau bod eu gweithwyr yn cael lefel uchel o gymorth mewnol ac yn cael eu darparu gyda hawliadau sy’n mynd y tu hwnt i safonau statudol.

Mae undeb y GMB wedi galw ar Lidl i roi’r gorau i ymdrechion i wyrdroi hawliau gweithwyr.

Dywedodd Maria Ludkin, Cyfarwyddwr Cyfreithiol GMB: “Mae Lidl wedi colli dwy frwydr llys. Mae’n hen bryd ei fod yn dechrau parchu’r cyfreithiau yn y wlad hon.

“Ers Oes Fictoria, ym Mhrydain yr ydym wedi cael diwylliant lle mae gweithwyr yn mwynhau’r hawliau cyfreithiol i ddewis cael eu cynrychioli gan sefydliad annibynnol o’r cyflogwr.

“Mae’n rhaid i Lidl yn awr roi’r gorau i’w ymdrechion i wyrdroi’r hawliau hyn.”