Mae tri o bobol wedi cael eu lladd ar ôl i’w car fod mewn gwrthdrawiad â lori ger tref Gateshead yng ngogledd ddwyrain Lloegr. Chafodd gyrrwr y lori ddim niwed.

Digwyddodd y ddamwain tua 2.20yb heddiw yn Wickham, ac fe gafodd yr heddlu, parameddygon a’r gwasanaeth tân eu galw.

Fe fu rhan o’r ffordd ar gau am rai oriau tra bod yr heddlu’n ymchwilio.

“Rydym yn y broses o adnabod a rhoi gwybod i’r teulu a fyddwn ni ddim yn cyhoeddi pwy yw’r bobol hyd nes bod hyn wedi’i wneud,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Northumbria.

“Mae ein meddyliau gyda ffrindiau a theuluoedd y sawl oedd yn rhan o’r digwyddiad trasig hwn.”