Mae 12 o fabanod newydd-anedig wedi cael eu lladd mewn tân yn un o ysbytai Baghdad.

Y gred ydi fod y tân wedi’i achosi gan wifrio blêr. Fe gynheuodd y fflamau yn hwyr nos Fawrth yn uned famolaeth Ysbyty Yarmouk yng ngorllewin y brifddinas.

O fewn dim, roedd yr awdurdodau yn gwahardd pobol rhag mynd yn agos i’r adeilad.

Mae tanau trydanol yn bethau reit gyffredin yn Baghdad, ac mae diffyg allanfeydd tân yn golygu bod colledion yn drymach pan mae tân yn torri allan.