Mae’r heddlu fu’n chwilio am fachgen 16 oed yn dilyn ei ddiflaniad ger afon yn Nyfnaint nos Wener wedi dod o hyd i gorff.

Dydy Nathan Wood o Paignton ddim wedi cael ei weld ers nos Wener, pan oedd ger afon Dart yn ardal Totnes.

Mae adroddiadau’n awgrymu ei fod e wedi cymryd cyffur tra’n chwarae ger yr afon gyda’i ffrindiau.

Mae ei deulu wedi cael gwybod, ond dydy’r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto.