Lowell Goddard
Mae ymchwiliad i gyhuddiadau o gam-drin plant yn wynebu oedi pellach, ar ôl i’w drydydd cadeirydd ymddiswyddo.

Fe ymddiswyddodd y barnwr uchel lys o Seland Newydd, y Fonesig Lowell Goddard, heb roi rheswm llawn dros wneud hynny.

Cafodd y Fonesig Lowell Goddard, 67, ei phenodi ym mis Ebrill 2015, ac yn ystod y flwyddyn a thri mis bu yn y swydd, fe dreuliodd dros 70 o ddiwrnodau yn gweithio dramor neu ar wyliau.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran yr ymchwiliad ei bod wedi treulio 44 diwrnod yn Seland Newydd ac yn Awstraliad at ddibenion yr ymchwiliad a bod ganddi hawl i gymryd 30 diwrnod o wyliau.

Mae grwpiau ymgyrchu a gwleidyddion wedi galw am ddod o hyd i rywun i ddod yn ei lle “ar frys”.

Wrth ymddiswyddo, dywedodd y Fonesig Lowell Goddard bod y swydd wedi bod yn “gam anodd iawn i gymryd am ei fod yn golygu rhoi’r gorau i fy ngyrfa yn Seland Newydd a gadael fy nheulu ar ôl”.

Yr ymchwiliad

Cafodd yr ymchwiliad ei sefydlu yn 2014, yn dilyn honiadau bod gwleidyddion San Steffan wedi cadw’n dawel pan yn gwybod am droseddau rhyw yn erbyn plant o fewn y sefydliad yn yr 1980au.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd, y byddai’r ymchwiliad yn “parhau heb oedi” ac y byddai cadeirydd newydd yn cael ei benodi.

Disgrifiodd yr ymchwiliad fel “yr ymchwiliad cyhoeddus mwyaf uchelgeisiol sydd erioed wedi cael ei sefydlu yn Lloegr a Chymru.”

Fe gamodd y Farwnes Butler-Sloss o’r neilltu ym mis Gorffennaf 2014, yn dilyn cwestiynau dros y rôl chwaraeodd ei brawd, y diweddar Arlgwydd Havers, a oedd yn dwrnai cyffredinol yn ystod yr 1980au.

Ac fe ymddiswyddodd y cadeirydd ddaeth yn ei lle, y Fonesig Fiona Woolf, yn dilyn beirniadaeth dros ei “chysylltiadau sefydliadol”, yn enwedig gyda’r cyn-Ysgrifennydd Cartref, Leon Brittan, a fu farw yn 2015.