Bydd rhagor o blismyn arfog ar strydoedd Llundain heddiw Llun: PA
Mae Scotland Yard wedi cyhoeddi mai dinesydd o Norwy, o dras Somali, yw’r dyn 19 oed sy’n cael ei amau o lofruddiaeth yn dilyn ymosodiad yn Llundain neithiwr.

Cafodd dynes yn ei 60au, o’r Unol Daleithiau, ei lladd a phum person arall eu hanafu gan ddyn â chyllell ar Sgwâr Russell, yng Nghanol Llundain tua 10.30yh nos Fercher.

Mae’r pump arall yn dod o Awstralia, America, Israel a Phrydain.

‘Dim tystiolaeth’ o frawychiaeth

Yn ôl yr heddlu, does dim tystiolaeth hyd yn hyn bod y dyn, sy’n cael ei gadw yn y ddalfa, “wedi cael ei radicaleiddio.”

Mae ditectifs arbenigol o’r uned gwrth-frawychiaeth wedi bod yn ymchwilio i’r achos drwy’r nos.

Dywedodd Mark Rowley, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu’r Metropolitan, ei bod yn debygol bod “problemau iechyd meddwl” yn ffactor yn yr ymosodiad.

Ond pwysleisiodd hefyd, nad oedd yr ymchwiliad i’r achos wedi dod i ben eto.

“Ar yr adeg hon, credwn fod hwn yn ymosodiad digymell a bod y dioddefwyr wedi cael eu dewis ar hap,” ychwanegodd.