Llun: PA
Mae HSBC wedi cyhoeddi gostyngiad o 29% yn ei elw cyn treth am chwe mis cynta’r flwyddyn yn sgil pryderon am refferendwm yr Undeb Ewropeaidd a’r rhagolygon economaidd yn China.

Roedd elw cyn treth blynyddol banc mwyaf Prydain wedi gostwng i £7.2 biliwn, o’i gymharu â £10.2 biliwn yn yr un cyfnod y llynedd.

Fe gwympodd elw cyn treth 45% yn yr ail chwarter.

Daw’r canlyniadau ynghanol “cyfnod cythryblus” i’r banc, meddai cadeirydd y grwp, Douglas Flint.

“Roedd pryderon ynglŷn â lefel cynaliadwy’r twf economaidd yn China yn brif ffactor yn y chwarter cyntaf, ac wrth i hynny sefydlogi, roedd yr ansicrwydd ynglŷn â refferendwm yr UE wedi dwysau.”

Meddai HSBC bod refeniw wedi gostwng o £24.7 biliwn yn hanner cyntaf 2015 i £22.1 biliwn yn chwe mis cynta’r flwyddyn hon.

Mae’r bleidlais dros adael yr UE yn golygu bod y DU a busnesau yn y DU yn dechrau “cyfnod newydd” meddai Douglas Flint wrth iddo rybuddio y byddai trafodaethau Brexit a sicrhau cytundebau masnach rhyngwladol yn gymhleth ac yn cymryd peth amser.