Mae bachgen 12 oed wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio dyn.

Roedd y bachgen yn un o bedwar llanc a ymddangosodd yn Llys Ynadon Oldham i wynebu cyhuddiad o lofruddio Bradley Moore ar 27 Gorffennaf.

Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad nos Fercher diwethaf am 10.50yh yn dilyn honiadau bod ymosodiad wedi digwydd tu allan i McDonald’s yn Stryd Warrington yng nghanol Ashton-under-Lyne, Tameside.

Daeth yr heddlu o hyd i ddyn yn ei 40au gydag anafiadau a chafodd ei gludo i’r ysbyty lle bu farw yn oriau man fore dydd Iau.

Bu’r bachgen 12 oed yn y llys bore ma ynghyd a’i gyd-ddiffynyddion, dau fachgen 16 oed ac un 17 oed. Ni ellir cyhoeddi eu henwau am resymau cyfreithiol.

Mae’r bechgyn yn cael eu cadw yn y ddalfa ac fe fydd yr achos yn cael ei gyfeirio at Lys y Goron.

Fe fydd gwrandawiad pellach prynhawn ma yn Llys y Goron Manceinion.

Nid yw’r dyn fu farw wedi cael ei adnabod yn swyddogol hyd yn hyn.