Nigel Farage Llun: Ukip
Mae un o’r ymgeiswyr posib i olynu Nigel Farage fel arweinydd UKIP wedi methu’r amser cau i gael ei enwebu.

Roedd cais yr Aelod Seneddol Ewropeaidd, Steven Woolfe, 17 munud yn hwyr yn cael ei gyflwyno.

Er hyn, mae’n beio “camgymeriad technegol,” ac yn awgrymu y byddai’n ystyried her gyfreithiol pe byddai’r blaid yn ei rwystro rhag ymgeisio.

Roedd y dyddiad cau am 12pm dydd Sul, ac esboniodd Steven Woolfe, sy’n bennaeth polisi mewnfudo’r blaid, ei fod wedi’i gyflwyno am 11.35yb.

Yn ôl llefarydd ar ran UKIP, ni fydd cyhoeddiad ynglŷn â’i le ar y rhestr tan y bydd pwyllgor archwilio’r blaid wedi cynnal eu gwiriadau, cyn cyhoeddi’r rhestr yfory.

Yn y ras hefyd mae’r cynghorydd Lisa Duffy, ASE Bill Etheridge a Jonathan Arnott.

‘Angen i UKIP broffesiynoli’

Dywedodd Steven Woolfe fod methu’r amser cau yn arwydd “fod angen i UKIP broffesiynoli.”

“Gobeithio eu bod yn cydnabod bod pawb yn y wlad weithiau yn edrych ar sgriniau eu cyfrifiadur ac yn sgrechain pan mae rhywbeth ddim yn gweithio, ac roedd gennym system nad oedd yn gweithio’n iawn y diwrnod hwnnw,” meddai.

Mae Steven Woolfe hefyd yn wynebu honiadau iddo adael i’w aelodaeth o’r blaid lithro yn 2014, sydd wedi codi amheuon am ei gymhwyster i ymgeisio o dan reolau newydd y blaid.