Llun: PA
Mae’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am ymosodiad ar westy i gontractwyr o dramor ym mhrifddinas Afghanistan bore ma.

Yn ôl adroddiadau bu ffrwydrad yng Ngwesty Northgate yn Kabul tua 1.25yb (amser lleol) fore dydd Llun.  Roedd y ffrwydrad grymus wedi effeithio cyflenwadau trydan yn y brifddinas.

Yn ôl llefarydd y Taliban, Zabihullah Mujahid, roedd gwrthryfelwyr wedi ymosod ar y gwesty.

Mae gwestai lle mae ymwelwyr o dramor yn aros wedi cael eu targedu’n rheolaidd gan y Taliban ers iddyn nhw ddechrau eu hymgyrch i ddisodli’r llywodraeth yn Kabul yn 2001.

Bu ymosodiad arall ar westy’r Northgate, sy’n cynnig llety i weithwyr o dramor, ym mis Gorffennaf 2013.