Mae cynlluniau i adeiladu’r orsaf niwcliar gyntaf ym Mhrydain ers 20 mlynedd yn wynebu ansicrwydd.
Fe benderfynodd Cwmni Ynni EDF ddoe i fwrw ymlaen gyda adeiladu gorsaf niwcliar newydd yn Hinkley Point ar ol blynyddoedd o oedi. Ond daeth datganiad yn gynnar wedyn gan y Llywodraeth yn dweud na fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud i adeiladu’r prosiect gwerth £18 biliwn tan ddechrau Hydref.
Dywedodd Undeb Unite fod y penderfyniad gan Gwmni EDF yn hanesyddol ac fe alwodd Unite ar y Llywodraeth i arwyddo’r cytundebau i ddechrau’r gwaith ar frys.
Dywedodd Kevin Coyne ar ran Undeb Unite, “Byddai unrhyw oedi pellach yn rhwystro’r hwb economaidd a chynlluniau i greu miloedd o swyddi a fydd yn dod gyda prosiect fel hwn.”
“Y mae ein haelodau yn barod i ddechrau’r gwaith o adeiladu’r orsaf niwcliar gyntaf ers cenhedlaeth ac mae cwmnïau o Brydain yn barod i adeiladu a chyflenwi’r prosiect gwerth £18 biliwn.”
Ychwanegodd Kevin Coyne, “Fe ddylai Llywodraeth Theresa May roi’r sêl bendith terfynol a dangos bod awydd pendant dros brosiectau is-adeiledd mawr, a fydd ei hangen i sicrhau ffyniant economaidd Prydain i’r dyfodol.”