Llun: PA
Fe wnaeth economi’r Deyrnas Unedig berfformio’n well na’r disgwyl yn ail chwarter eleni, yn dilyn gwelliant yn nhwf cynhyrchiant diwydiannol a’r sector gwasanaethau.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, fe wnaeth Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) y wlad gynyddu 0.6% yn ail chwarter 2016, o 0.4% ers y chwarter cyntaf.
Mae’r sector cynhyrchu diwydiannol wedi tyfu 2.1% o gymharu â chwymp o 0.2% yn y chwarter blaenorol, dyma’r cynnydd mwyaf ers 1999.
Ac fe wnaeth sector gwasanaethau Prydain dyfu 0.5% dros yr un cyfnod.
Er hynny, bu cwymp yn y sector adeiladu o 0.4% ac ym myd amaethyddiaeth, a gwympodd 1%.
Roedd y cynnydd yn yr economi wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau economegwyr, oedd yn darogan cynnydd o 0.5%.
Roedd llawer wedi dweud y byddai’r economi yn dal ei thir yn yr wythnosau cyn y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd, gyda pherfformiad sectorau gweithgynhyrchu a gwerthu yn gyfrifol am hynny.
Fe wnaeth ffigurau gweithgynhyrchu’r Deyrnas Unedig ddisgyn 0.5% ym mis Mai, cwymp uwch na’r disgwyl o gymharu â chynnydd ym mis Ebrill o 2.4%, ond bu cynnydd o 1.1% yn y sector ar y cyfan.