Angela Eagle, Llun: Lauren Hurley/PA Wire
Mae Angela Eagle wedi cyhoeddi prynhawn ma na fydd yn sefyll fel ymgeisydd i herio  Jeremy Corbyn am arweinyddiaeth y Blaid Lafur.

Mae hynny’n golygu mai Owen Smith, AS Pontypridd yw’r unig ymgeisydd i herio’r arweinydd ac yn ôl y BBC mae Angela Eagle wedi dweud y bydd yn ei gefnogi.

Dywedodd ei bod yn tynnu ei henw yn ôl “er budd y Blaid Lafur” er mwyn caniatáu i Owen Smith herio Corbyn. Ychwanegodd bod Smith wedi sicrhau’r nifer fwyaf o enwebiadau gan ASau Llafur.

Roedd Owen Smith wedi derbyn 88 o enwebiadau gan ASau Llafur a dau gan Aelodau Seneddol Ewropeaidd y blaid – roedd angen sicrhau 51 o enwebiadau er mwyn bod yn ymgeisydd.

Roedd awgrymiadau y bore ma bod Jeremy Corbyn yn debygol o wynebu un ymgeisydd yn unig i’w herio am arweinyddiaeth y blaid ar ôl i’r ddau gystadleuydd gynnal trafodaethau ynglŷn â’r ffordd orau i’w ddisodli.

Roedd y ddau gyn-aelod o gabinet yr wrthblaid, Angela Eagle ac Owen Smith, wedi dod i “ddealltwriaeth” ynglŷn â’r ffordd orau i orfodi Jeremy Corbyn i ildio’r awenau.

Serch hynny mae  arolwg o aelodau’r blaid yn awgrymu y byddai Jeremy Corbyn yn debygol o sicrhau buddugoliaeth  oherwydd y gefnogaeth sylweddol sydd ganddo ar lawr gwlad, a hynny er gwaethaf ymddiswyddiadau nifer o aelodau cabinet yr wrthblaid a phleidlais o ddiffyg hyder yn ei erbyn.